Y Ddaear

English




Ffeil-O-Ffaith y Planedau
Mercher Gwener Daear Mawrth Iau Sadwrn Wranws Neifion

Y Ddaear

Y blaned yr ydym yn byw arni. Dyma'r drydedd blaned o'r haul, ac mae ganddi atmosffer a thymheredd sy'n addas ar gyfer bywyd.

Y Ddaear yw'r blaned ddaearol fwyaf yng nghysawd yr haul.

Fe'i ffurfiwyd tua 4.54 biliwn o flynyddoedd yn ôl.

Mae'r Ddaear yn teithio o amgylch yr haul ar gyflymder o 67,000 milltir yr awr, sy'n golygu ei bod yn cymryd 365.256 o ddiwrnodau i gwblhau un cylchdro (dyna pam y ceir blwyddyn naid bob pedair blynedd i wneud yn iawn am y 0.256 diwrnod ychwanegol bob cylchdro).

Mae 71% o arwynebedd y Ddaear wedi'i orchuddio â dŵr.

Cyfansoddiad yr atmosffer yw tua 78% nitrogen a 21% ocsigen.

delwedd lloeren o'r Ddaear

Teithiau i'r Gofod

Mae dros 75 o deithiau llwyddiannus wedi bod i'r Lleuad (mae hyn yn cynnwys teithiau sydd wedi glanio ar y lleuad, cylchdroi o amgylch y lleuad, hedfan heibio i'r lleuad, a llywio gyda chymorth disgyrchiant y lleuad).

Rhoddwyd y lloeren gyntaf a wnaed gan ddyn yn y gofod yn llwyddiannus yn 1957 gan raglen ofod Rwsia - galwyd y lloeren yn Sputnik. Erbyn hyn mae dros 2,200 o loerennau a wnaed gan ddyn yn cylchdroi o amgylch ein planed, ac mae'r nifer hwn yn cynyddu'n gyflym.

Mae dwy orsaf ofod yn cylchdroi'r Ddaear hefyd, sef yr Orsaf Ofod Ryngwladol (ISS) a Tiangong 2. Yr orsaf ofod gyntaf erioed oedd Salyut 1, a lansiwyd yn llwyddiannus yn 1971.

Y gwrthrych a wnaed gan ddyn sydd bellaf o'r Ddaear ar hyn o bryd yw'r chwiliedydd Voyager 1, sydd 12.8 biliwn o filltiroedd i ffwrdd ar adeg ysgrifennu'r wybodaeth hon (hwn oedd y chwiliedydd cyntaf i adael cysawd yr haul). Gallwch edrych ar wefan data byw Voyager NASA i weld pa mor bell i ffwrdd y mae erbyn hyn.

Cwestiynau

Defnyddiwch y wybodaeth uchod i ateb y cwestiynau canlynol:

  1. Er bod gennym flwyddyn naid bob pedair blynedd rydym yn dal i golli 0.006 diwrnod fesul cylchdro. Faint o amser y bydd yn ei gymryd nes y byddai angen blwyddyn naid ddwbl?
  2. Beth yw'r nwy trydydd mwyaf cyffredin yn atmosffer y Ddaear?
  3. Pam mae'r atmosffer ar y Ddaear yn haws i symud drwyddo na'r atmosffer ar Gwener?
  4. Rhowch dri rheswm pam fod cael nifer gynyddol o loerennau yn cylchdroi o amgylch y Ddaear yn beth gwael.

Atebion

Dyma ddolen fydd yn eich cysylltu â'r daflen atebion ar gyfer yr ymarfer hwn. Peidiwch â'i defnyddio tan ar ôl i chi roi cynnig ar yr holl weithgareddau


Yn ôl i Dudalen Gartref Ffiseg